Gwasanaethau yn ymwneud â charthion
Carthion
mains yw’r norm yn y DU, a cheir llawer o resymau dros ei argymell. Yn gyffredinol, os ydych chi’n medru cysylltu â’r brif system garthion, yna fe ddylech chi. Mae’n rhad, diogel ac effeithiol. Serch hynny, mae rhai adeiladau sy’n rhy ynysig i fedru cysylltu â’r brif system. Mewn achosion o’r fath, bydd angen i chi drin eich carthion eich hun. Ond beth yn union ydyn ni’n ceisio ei wneud wrth drin carthion, a sut mae mynd o’i chwmpas hi?
Beth ydyn ni’n ceisio ei gyflawni wrth drin carthion?
Wrth drin carthion rydyn ni’n ceisio glanhau'r dŵr a gafodd ei wneud yn fudr fel y gallwn ei ryddhau yn ôl i’r amgylchfyd naturiol. I wneud hyn, mae angen i ni gael gwared tri phrif beth:
-pathogenau (organebau peryglus a all achosi afiechydon)
-maetholion. Os rhyddhewch chi garthion heb eu trin i’r amgylchfyd naturiol, bydd y maetholion yn ymddwyn fel gwrtaith. Byddant yn achosi cynnydd mewn algae (planhigion bychan), a phroses a elwir yn eutrophication sy’n gallu lladd llawer o’r creaduriaid sy’n byw yn y sianeli dŵr.
-solidau. Gallant fod yn ddiolwg, ond yn bwysicach byth maent yn ffynhonnell gref o faetholion, felly wrth gael gwared ohonynt yr ydym yn lleihau’r perygl o eutrophication.
Sut ydyn ni yn ei drin?
Y cam cyntaf o drin carthion yw gwahanu’r soledau oddi wrth yr hylifau a’r ffordd orau o’u gwahanu yw trwy adael y carthion mewn tanc nes bod y soledau unai’n arnofio neu’n suddo. Gallwch wedyn dynnu’r hylif ymaith o ganol y tanc, a thrin y soledau ar wahân.
Ceir amryw o ffyrdd o drin yr hylifau, ond mae rhywbeth yn gyffredin rhwng pob un ohonynt; cânt eu cynllunio i wneud cartref dymunol i’r micro-organebau sy’n torri carthion i lawr. Mae’r micro-organebau hyn angen bwyd, aer, cynhesrwydd a dŵr, felly os ydych chi’n trin eich carthion eich hun, bydd angen i chi edrych ar ôl y system fel bod y micro-organebau yn gallu gwneud eu gwaith. Canlyniad y system trin carthion yw dŵr sy’n unai’n ddigon glan i’w ollwng yn ôl i’r amgylchedd (i’r ddaear neu sianel ddŵr lleol), neu i’w ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall (e.e. i gyflenwi pwll bywyd gwyllt neu ddyfrio’r ardd).
Beth am doiledau compost?
Ychwanegir dŵr at garthion i’n galluogi i’w symud drwy bibelli i’r fan lle y bydd yn cael ei drin. Mae trin carthion yn cynnwys cael gwared â soledau o’r dŵr unwaith eto, yna glanhau’r dŵr i safon uchel. Mewn rhai achosion mae’n symlach i beidio ychwanegu dŵr o gwbl, a chael toiled compost yn lle. Gallwch wedyn ddefnyddio system llawer symlach i drin y dŵr ddaw o’r gawod, bath, sinc ayb.
Eisiau gwybod mwy?
Llyfr cychwynnol da ar drin carthion eich hun yw
Sewage Solutions, sydd ar gael yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen. Os ydych chi’n meddwl am brosiect penodol gall Gwasanaethau Dŵr a Charthion Cymru eich helpu. Gallwn ymweld â’ch safle a’ch cynghori am ba mor dda mae unrhyw system bresennol yn gweithio a sut y gellir ei gwella. Gallwn gynllunio system i chi ei gosod eich hun, cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a chyrff rheoli eraill ar eich rhan, a dangos sut i gynnal a chadw eich system.