Croeso
Gwasanaeth ymgynghorol bychan ydyn ni yn arbenigo mewn darparu atebion amgylcheddol gyfeillgar ar raddfa fechan i broblemau dŵr, carthion a gwastraff. Cynigiwn amrediad o wasanaethau yn cynnwys:
- - Cynllun a manyleb systemau carthion a dŵr gwastraff graddfa fechan yn cynnwys corslwyni a thoiledau compost
- - Arfarnu cyflenwad dŵr preifat yn cynnwys defnydd o ffynhonnau, dŵr arwyneb, tyllau turio (boreholes), dŵr glaw a systemau cynaeafu dŵr llwyd
- - Cyngor ar sut i drin elifiant ar gyfer ei ail-ddefnyddio
- - Cyngor ar reolaeth gwastraff organig yn cynnwys compostio a thraul anerobig
- - Cyrsiau a darlithoedd wedi eu teilwra ar holl agweddau rheoli dŵr, carthion a gwastraff organig
- - Astudiaethau ‘Asesu Cylch Bywyd’ (Life Cycle Assessment) i ISO 14040-14043, mewn materion yn ymwneud â dŵr a charffosiaeth
Gwneir y rhan fwyaf o’r gwaith gan y Dr Judith Thornton, sydd wedi bod yn ymgynghorydd dŵr, carthion a gwastraff ers 2000, yn cynnwys gweithio yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Mae Judith wedi cynllunio a gosod amrywiaeth o systemau, yn cynnwys corslwyni, toiledau compost a chyflenwad dŵr preifat. Yn ogystal â rhedeg Water Works, mae Judith yn dysgu cwrs MSc mewn Astudiaethau Amgylchedd ac Ynni Datblygedig i Brifysgol Dwyrain Llundain.
Judith hefyd yw awdur y llyfr The Water Book. Os ydych yn gosod cyflenwad dŵr preifat neu â diddordeb mewn ychwanegu at eich cyflenwad o ddŵr
mains, gall y llyfr hwn eich helpu. Cliciwch ar glawr y llyfr ar y chwith am fanylion pellach. Fe’i diweddarwyd yn 2007, yn cynnwys cyngor ar Reoliadau Cyflenwad Dŵr Preifat newydd (Yr Alban), 2006.