Gwasanaethau yn ymwneud â dŵr
Mae dŵr yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd yn ganiataol gan lawer ohonom yn y DU. Mae dŵr tap yn rhad, yn lân a diogel. Serch hynny, mae llawer o bobl yn dechrau dangos diddordeb mewn opsiynau eraill. Cynigir amrediad o wasanaethau gan Water Works.
Wrth edrych am gyflenwadau dŵr eraill, y prif ystyriaethau yw maint y cyflenwad ac ansawdd y dŵr. Tra’i bod yn dechnegol bosibl i drin bron iawn unrhyw ddŵr i safon dŵr yfed, nid yw’r prosesau wastad yn cydymffurfio â gofynion amgylcheddol. Gall Gwasanaethau Dŵr a Charthion Cymru ymweld â’ch safle i asesu eich defnydd o ddŵr, ffynonellau dŵr posibl ac ansawdd unrhyw ddŵr newydd. Gallwn gynghori ar systemau casglu, storio a thrin dŵr. Os oes gennych gyflenwad dŵr preifat yn barod gallwn eich cynghori ar ddiogelwch a chynhaliaeth. Mwy o fanylion .
Ers Mai 2008, mae’n rhaid asesu pob tŷ yn Lloegr yn erbyn y Côd ar gyfer Tai Cynaliadwy. Mae’r Côd yn mesur cynaladwyedd tŷ newydd yn erbyn categorïau o gynllunio cynaliadwy, gan raddio’r ‘holl dŷ’ fel pecyn cyflawn. Defnyddir system raddio 1 i 6 seren i nodi perfformiad cyflawn cynaladwyedd y ty newydd. Gosodir isafbwyntiau i’r safonau y mae’n rhaid eu cyrraedd gyda defnydd o ynni a dŵr ar bob lefel. Gall Water Works eich cynghori ar y dulliau gorau o gwrdd gofynion y Côd. Mwy o fanylion .
Mae Judith yn awdurdod ar gyflenwadau bychain o ddŵr yn y DU ac mae wedi ysgrifennu "The Water Book", sef canllaw ar ddod o hyd, symud, storio a glanhau dŵr. Canllaw ymarferol yw hwn i’r materion sy’n ymwneud â chyflenwadau dŵr, gosod cyflenwadau newydd ayb ac mae ar gael gan yr awdur trwy’r wefan. Mwy o fanylion .
Diddordeb yn y manteision amgylcheddol / ariannol o ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon?
Bron yn ddieithriad, mae’n haws defnyddio llai o adnodd na dod o hyd i fwy ohono. Efallai nad yw gosod mesurau effeithlonrwydd dŵr mor gyffrous â gosod cyflenwad ychwanegol o ddŵr, ond mae’n llawer rhatach ac yn llawer mwy cyfeillgar tuag at yr amgylchedd. Mantais arall o ddefnyddio llai o ddŵr yw bod gennych lai o garthion i’w glanhau. Gal Gwasanaethau Dŵr a Charthion Cymru archwilio a chynghori ar offer effeithlonrwydd dŵr fydd yn arbed arian, yn ogystal â dŵr i chi.