frogfrog
Water Works
frogfrog
HafanHafanGwasanaethau dwrGwasanaethau carthionGwasanaethau gwastraffCysylltwchDolenni allanol
frog


compostio mewn windrow
cist compost
English site

Gwasanaethau rheoli gwastraff organig

Mae llawer o地 gwastraff, mewn gwirionedd, yn adnoddau. Mae angen i ni stopio meddwl am gadwyni cynhyrchu llinellol (adnoddau crai yn troi地 gynnyrch yn troi地 wastraff) a meddwl yn nhermau cylchoedd cysylltiedig, lle mae allbwn un broses yn troi地 adnodd crai i un arall. Enghraifft amlwg o hyn yw compostio, lle bo bwyd diangen ac addurniadau池 ardd yn cael eu troi yn faetholion pridd defnyddiol. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o finiau compost maint domestig yn yr ardd, ond mae compostio deunyddiau organig ar raddfa fwy yn bosibl hefyd. Mewn rhai achosion, gall traul anerobig fod yn fwy addas na chompostio.

Gallwn gynnig cyngor a gwneud astudiaethau dichonoldeb ar gyfer rheoli gwastraff organig ar raddfeydd cartref / cymunedol, yr holl ffordd i reoli gwastraff organig i fusnesau sy地 cynhyrchu hyd at oddeutu 15 tunnell yr wythnos.

Esiamplau o brosiectau blaenorol

  • - Hyfforddiant ymgynghorol compostio yn y cartref i池 Rhaglen Gweithredu ar Adnoddau Gwastraff (Waste Resources Action Programme - WRAP). Mae Judith wedi bod yn diwtor ar y cwrs WRAP a ddysgir gan Garden Organic (HDRA gynt) am y 4 blynedd ddiwethaf.
  • - Sŵ Bryste. Fel rhan o ddatblygiad Parc Cenedlaethol i Warchod Bywyd Gwyllt ar gyrion Bryste, buom yn astudio dichonoldeb yr opsiynau posibl ar gyfer trin yr holl wastraff bwyd a thail anifeiliaid ar y safle (cyfanswm o tua 10 tunnell yr wythnos).



  • compost     compostio in-vessel    cist compost

    Hafan   |    Dŵr   |    Carthion   |    Gwastraff   |    Cysylltwch   |    Dolenni   |    English