frogfrog
Water Works
frogfrog
HafanHafanGwasanaethau dwrGwasanaethau carthionGwasanaethau gwastraffCysylltwchDolenni allanol
frog


cronfa ddwr
Llyfr dwr
English site

The Water Book. Find it, move it, store it, clean it... use it

I unrhyw un sy’n gosod systemau dŵr o’r newydd, The Water Book yw’r canllaw diffiniol ar sut i reoli eich H2O. Dengys y llyfr hwn sut i ddod o hyd i, cysylltu, cynnal, trin a storio dŵr, beth bynnag fo’i darddiad, gan ei wneud yn ddiogel i’w yfed yn y modd mwyaf amgylcheddol gywir posibl.

Boed â chyflenwad dŵr mains neu breifat, os ydych chi eisiau ei ddeall yn well neu ychwanegu ato o ffynhonnell arall, mae’r llyfr hwn yn llawn cyngor amhrisiadwy ar sut i wneud hynny. Os ydych chi’n comisiynu rhywun arall i osod eich cyflenwad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi arfogi eich hun gyda’r wybodaeth gefndirol i sicrhau eu bod yn gwneud y gwaith yn iawn; gall arbed miloedd o bunnoedd i chi. Caiff rheoliadau yn ymwneud â chyflenwadau dŵr yn y DU eu hesbonio. Defnyddir astudiaethau achos i ddangos atebion i broblemau cyflenwad dŵr mewn sefyllfaoedd go iawn.

Mae’n hanfodol yn ein hinsawdd newidiol fod pob cartref yn mabwysiadu mesurau arbed dŵr. Cyfrifwch beth sydd ei angen arnoch a darganfyddwch sut i leihau’r defnydd ohono, sut i gynaeafu dŵr a sut i ail-ddefnyddio dŵr yn yr ardd.

Penodau yn cynnwys:

  • - lleihau eich defnydd o ddŵr
  • - y mains a ffynonellau eraill
  • - cysylltu a gosod system ddŵr newydd
  • - difwynwyr mewn dŵr a sut i gael gwared ohonynt
  • - cynaeafu dŵr glaw
  • - ailgylchu dŵr llwyd
  • - dŵr yn yr ardd
  • I archebu, cliciwch ar y botwm i dalu gyda paypal, neu gyrrwch siec am £12 + £2 p+p i’r cyfeiriad ar y dudalen cysylltwch.

    Yn newydd yn yr ail gyhoeddiad

    Mae rheoliadau ar gyflenwadau dŵr preifat yn newid. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, maent wedi newid yn barod. Bydd Cymru a Lloegr yn dilyn yr un drefn yn 2008/2009. Mae’r ffordd y caiff cyflenwadau eu rheoleiddio gan Awdurdodau Lleol yn newid, yn ogystal â’r hyn y disgwyliant ei weld wrth wneud ymweliadau. Gwerth nodi hefyd fod grantiau ar gael i uwchraddio cyflenwadau dŵr preifat. Mae ail gyhoeddiad y llyfr yn esbonio’r newidiadau hyn a sut maent yn effeithio arnoch chi.

    Mae’r Côd am Dai Cynaliadwy yn berthnasol i bob tŷ newydd yn Lloegr ac mae’n cynnwys targedau effeithlonrwydd dŵr gorfodol. Trafodir sut mae hyn yn effeithio effeithlonrwydd dŵr yn eich tŷ yn yr ail gyhoeddiad. Cliciwch YMA am fwy o fanylion am ofynion dŵr y Côd am Dai Cynaliadwy.

    Ffigyrau, diagramau a gwybodaeth fwy diweddar am gynnyrch newydd sydd wedi ymddangos ers cyhoeddiad cyntaf y llyfr yn 2005.


    Crynodebau’r penodau

    An introduction to water

    Mae dŵr yn symud yn barhaol o amgylch y blaned o fewn y Cylch Hydrolegol. Bydd deall y gylchred hon yn eich helpu i ddeall lle i chwilio am ddŵr. Trafodir priodweddau ffisegol pwysig dŵr, a chyflwynir y broses sylfaenol o wneud penderfyniadau wrth edrych am gyflenwad arall o ddŵr.

    First things first; reducing flows and cutting costs

    Bron yn ddieithriad, mae’n haws defnyddio llai o adnodd na dod o hyd i fwy ohono. Efallai nad yw gosod mesurau effeithlonrwydd dŵr mor gyffrous â gosod cyflenwad ychwanegol o ddŵr, ond mae’n llawer rhatach ac yn llawer mwy cyfeillgar tuag at yr amgylchedd. Mantais arall o ddefnyddio llai o ddŵr yw bod gennych lai o garthion i’w glanhau. Mae The Water Book yn disgrifio lle caiff dŵr ei ddefnyddio yn y cartref a lle sydd hawsaf i wneud arbedion, yn cynnwys newidiadau ymddygiadol a defnydd o dechnolegol.

    Assessing alternative water sources

    Wrth edrych am gyflenwadau dŵr eraill, y prif ystyriaethau yw maint y cyflenwad ac ansawdd y dŵr. Tra’i bod yn dechnegol bosibl i drin bron iawn unrhyw ddŵr i safon dŵr yfed, nid yw’r prosesau wastad yn cydymffurfio â gofynion amgylcheddol. Mae The Water Book yn disgrifio sut i ddod o hyd i, a sut i gyrraedd cyflenwadau dŵr.

    Moving water

    Unwaith yr ydych wedi llwyddo i gyrraedd eich cyflenwad dŵr, byddwch angen penderfynu ar bibelli, pympiau, rheolaeth a sut i’w storio. Trafodir yr amryfal opsiynau yn y bennod hon a sut i ddewis rhyngddynt.

    Cleaning water

    Mae sut i lanhau dŵr yn dibynnu i raddau helaeth ar ba ddifwyned yn union yr ydych yn ceisio ei waredu. Yn gyffredinol mae’n gwneud synnwyr i gael gwared ag unrhyw wastraff soled yn gyntaf, wedyn unrhyw organeddau byw ac yna unrhyw sylweddau eraill. Mewn systemau ar raddfa ddomestig, hidlwyr (filters) yw’r dull mwyaf cyffredin a ddefnyddir i gael gwared â soledau, a thrafodir amrediad o hidlwyr yma, yn cynnwys hidlwyr tywod a hidlwyr ceramig. Mae’n hanfodol cael gwared â difwynwyr microbiolegol, a disgrifir amryw o dechnegau i ladd neu hidlo micro-organebau. Gall llawer o sylweddau toddedig achosi problemau mewn cyflenwadau dŵr preifat, ac mae’r bennod hon yn trafod y ffyrdd mwyaf addas o gael gwared â’r difwynwyr mwyaf cyffredin yng nghyflenwadau dŵr y DU mewn manylder. Trafodir Rheoliadau Cyflenwad Dŵr Preifat yma gan eu bod yn berthnasol i dai preifat.

    Rainwater harvesting

    Mae gan lawer o gartrefi’r DU danciau dŵr i storio dŵr glaw i’w ddefnyddio yn yr ardd. Dyma enghraifft wych o sut i leihau’r galw am ddŵr mains. Os ydych chi’n byw mewn ardal sy’n cael llawer o law, neu os oes gennych do mawr, gall fod yn werth ystyried system fwy cymhleth o gynaeafu dŵr glaw lle caiff dŵr ei hidlo ac yna ei ddefnyddio i fflysio’r toiled. Mae’r bennod hon yn disgrifio pryd a lle fo syniad o’r fath yn addas a sut i fynd ati i sefydlu system.

    Grey water recycling

    Dŵr llwyd yw’r dŵr ‘gwastraff’ o’r gawod, bath, sinc a’r peiriant golchi (h.y. yr holl wastraff dŵr a gynhyrchir yn y cartref ac eithrio dŵr toiled). Anaml iawn y bo’n briodol i gasglu a storio’r gwastraff hwn i’w ail-ddefnyddio yn y cartref, ac mae’r rhesymau am hyn yn cael eu disgrifio yn y bennod hon.

    Water in the garden

    Ar sail flynyddol, nid yw’r math hwn o ddefnydd yn godro gormod ar ddŵr. Serch hynny, mae’n tueddu i gynyddu ar yr adegau hynny pan a lle bo dŵr mains ar ei brinnaf. Gellir lleihau'r defnydd o ddŵr yn yr ardd mewn llawer o ffyrdd ac fe’u disgrifir yn y bennod hon. Trafodir cynlluniau systemau dyfrio y gallwch eu hadeiladu eich hunan hefyd, yn cynnwys rhai sy’n addas ar gyfer dŵr glaw a dŵr llwyd.




    cronfa ddwr     llyn    bocs ffynnon

    Hafan   |    Dŵr   |    Carthion   |    Gwastraff   |    Cysylltwch   |    Dolenni   |    English